Einir looks online for a partner, without realising that he lives in the same street. She is snared and deceived by the stalker. A tension-packed short novel in the 'Stori Sydyn' series.
Gweledigaeth fawr y byd llyfrau Cymraeg yw’r gyfres Stori Sydyn, a'i nod yn syml yw sichrau bod modd darllen y cynnwys mewn byr amser ac annog y darllenydd i ddarllen ymhellach.
Bûm braidd yn hir cyn dechrau agor cloriau'r gyfrol hon gan Manon Steffan Ros, ond wedi i mi ddechrau ar y darllen allwn i ddim mo’i gollwng.
Nid wyf am ddatgelu'r stori yn ormodol, ond fel mae’r teitl yn ei awgrymu, stori'r stelciwr sydd yma ac fel y mae e’n gweld y byd. Mae’r cyfan yn sinistr a brawychus ac fe ellir gweld sut y mae gweinion ein cymdeithas yn medru cael eu hudo. Ar adegau, mae rhywun yn cydymdeimlo â’r stelciwr wrth i un celwydd arwain at y nesaf, a’r cyfan yn troi’n un bywyd o fyw celwydd.
Tristwch hefyd yw gwybod bod cymeriadau fel Einir yn ein cymdeithas, a gellir gweld sut y mae hi’n cael ei sugno i mewn i’r cyfan, a hynny er mwyn gwireddu disgwyliadau cymdeithas.
Yr hyn sy’n bwysig mewn cyfrolau fel hyn yw stori gref sy’n cymell y darllen. Yn wir, mae’r stori hon gan Manon Steffan Ross fel ryw ffilm ond eto mae'n gwbl gredadwy.
Os oes gennych chi awr i'w sbario ac angen rhywbeth difyr i’w ddarllen dyma’r gyfrol i chi. Mae hi hefyd yn gwbl addas i’r sawl nad yw'n gyfarwydd â darllen llyfrau Cymraeg, gan fod y pwyslais ar y stori yn hytrach na’r arddull. Cofiwch mai £1 yw pris y gyfrol – bargen go iawn!
~Sarah Down-Roberts @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.