A powerful novel set on the island of Crete during the Second World War, where extreme events change the village of Anogia for ever.
Nofel gref wedi'i lleoli ar ynys Creta adeg yr Ail Ryfel Byd, a'r digwyddiadau eithafol a newidiodd bentref Anogia am byth.
~Publisher: Y Lolfa
Dyma nofel fawr, yn y ddwy ystyr. Gyda thros 500 tudalen mae’n glamp o lyfr, ac yn un sy’n gwneud i mi deimlo'i bod hi’n drueni nad ydyn ni’n cyhoeddi mwy o lyfrau gyda chloriau caled yng Ngymru. Ond mae’n stori a hanner hefyd. Hanes ynys Creta yn ystod yr Ail Ryfel Byd yw cefndir y nofel, agwedd ar hanes y rhyfel do’n i’n gwybod dim amdani. Yr Almaenwyr sydd mewn grym ar yr ynys, ond yn eu herbyn mae'r andartes, y gwrthwynebwyr lleol. Maen nhw yn eu tro yn cael eu cynorthwyo gan rai o filwyr y Special Operations Executive o Brydain.
Mae’n anodd crynhoi’r stori gan fod yna nifer o haenau yn cydblethu. Ond yn sylfaneol cawn hanes nifer o unigolion sy’n ceisio byw dan orthrwm yr Almaenwyr, a hanes rhai o’r Almaenwyr hynny hefyd. Yn gefndir i’r cwbl mae herwgipiad y Cadfridog Kreipe, sy’n gatalydd i ddial erchyll gan yr Almaenwyr.
Mae’r hanes yn cael ei adrodd o nifer o safbwyntiau gwahanol, ac ar y dechrau roeddwn i’n tybio y byddai hynny’n gwneud y nofel yn anodd ei dilyn, ond nid felly y bu. Mae yna lu o gymeriadau, ond mae gan bob un ei chwedl, a’r chwedlau yna’n ddiddorol a chofiadwy. Yn eu plith mae Nikos, y bachgen ifanc dideimlad sydd wedi gweld pethau erchyll; Grigori, yr athro dawnus ond llwfr sydd mewn cariad â merch un o’r andartes; a Thera, y fam sy’n dioddef colledion enfawr ond sy’n gofalu am eraill, er gwaetha’r peryglon.
Mae yna ôl ymchwil manwl yn y llyfr, a gwybodaeth gynhwysfawr am ynys Creta yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn achlysurol roeddwn i’n teimlo bod Gareth F. Williams yn ceisio cynnwys gormod; roedd yr ymgais i gynnwys hanesion Hans a Sophie Scholl, cymeriadau hanesyddol go iawn, un cam yn ormod i mi, er bod defnyddio cymeriadau hanesyddol mewn rhannau eraill o’r nofel yn ychwanegu at y stori.
Ond mae holl erchyllter ac ansicrwydd rhyfel yn cael eu darlunio’n glir yn Awst yn Anogia. Mae ‘na deyrngarwch ond mae yna hefyd densiynau sy’n dangos nad yw bywyd yn ddu a gwyn. Efallai mai’r arwydd pennaf o hynny, ac o ddawn yr awdur, yw i mi, ar adegau, deimlo tosturi tuag at gymeriad mwyaf atgas y nofel, Golo Wolf. Y cymeriad y gwnes i uniaethu fwyaf ag e oedd Almaenwr arall, Tobias Jung. Fe fydd yr olygfa pan mae’n dweud wrth ei dad ei fod am ymuno â’r lluoedd arfog yn aros yn y cof yn hir.
~Cerian Arianrhod @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.