A novel that revolves around three characters, Enoch, Isaac and Owen. The story begins when Owen comes to stay at a cottage on an isolated mountain farm. A lyrical, subtle novel, with wildlife central to the memorable events.
Nofel sy'n troi o gwmpas tri chymeriad, Enoch, Isaac ac Owen. Mae'r stori'n dechrau pan mae Owen yn dod i aros mewn bwthyn ar dir fferm fynyddig. Nofel delynegol, gynnil, a byd natur yn ganolog i'r digwyddiadau cofiadwy.
~Publisher: Y Lolfa
Caryl Lewis, heb os, yw un o’n prif awduron erbyn hyn, ac y mae cryn ddisgwyl wedi bod am Y Bwthyn – ei degfed nofel. Pori tir tebyg i Martha, Jac a Sianco mae Y Bwthyn wrth iddi bortreadu bywyd yng nghefn gwlad Cymru. Y pedwar prif gymeriad yw Enoch y tad, Isaac ei fab ac Owen, dyn ifanc a ddaw i aros yn yr adfail o fwthyn ar fferm fynyddig Hen Hafod. Y pedwerydd cymeriad, a'r un sydd â rhan ganolog drwy'r nofel, yw'r dirwedd ddigyfnewid. Nyddwyd hefyd i’r stori nifer o fân gymeriadau – a phob un ohonynt yn rhoi cipolwg i ni ar fywyd syml ond cymhleth y mynydd.
Stori sy’n symud yn dwyllodrus o araf yw hon ond dyma mewn gwirionedd yw gogoniant y nofel. Mae’r tensiynau a’r tawelwch sydd rhwng y cymeriadau, yn enwedig rhwng y tad a’r mab, yn cymell y darllen a dim ond ar y diwedd y datgelir y stori'n llawn. Ceir yma ddarluniau byw iawn o’r cymeriadau. Teimlaf fy mod yn adnabod Enoch ac Isaac yn rhyfeddol o dda – mae eu gwedd yn fyw iawn yn fy meddwl. Fe fyddwn, er hynny, wedi hoffi dod i adnabod Owen ychydig yn well a chael gwybod pam y’i cymhellwyd i ddod i’r mynydd, a beth fu ei hanes wedyn. Ond efallai fod y dirgelwch hwn yn rhan o apêl y nofel ar yr un pryd.
A minnau wedi cael fy magu gan rieni a oedd yn gyfarwydd â bywyd mynydd Ceredigion mae’r nofel hon yn dod â sawl atgof. Portreadir yma brydferthwch rhyfeddol cefn gwlad a gweithgareddau rheolaidd, angenrheidiol pob tymor ond yn gefndir i’r cyfan mae yma hagrwch a chaledi, a'r ymdeimlad bod y ffordd hon o fyw ar fin dod i ben, neu ar fin newid am byth. Mae yna wrthdaro rhwng teuluoedd a rhwng anifeiliaid ac y mae’r gwn – arf a arferai fod ym mhob ffermdy anghysbell – weithiau yn rhy gyfleus.
Hyfryd yn wir yw cael cofnod o arferion difancoll bywyd y mynydd ac fe werthfawrogais yn fawr ddawn yr awdur i gofnodi ambell dro ymadrodd yr arferwn ei glywed yng nghefn gwlad Ceredigion – e.e. ‘meddwl bwer’ sef meddwl llawer. Go gostus ac anodd, mae’n debyg y byddai creu ffilm o’r gyfrol, ond mi fyddai’n braf gael cofnod gweledol o arferion y bywyd mynyddig cyn iddynt gael eu colli yn llwyr.
~Sarah Down-Roberts @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.