An entertaining and unique collection of articles dealing with the world of folk sessions in Wales, each chapter entitled with the name of a Welsh melody.
Cyfrol o ysgrifau hwyliog ar y byd sesiynau gwerin yng Nghymru, gydag enw a nodiant alaw Gymreig yn bennawd i bob pennod. Llyfr unigryw ei naws gelfyddydol na chyhoeddwyd ei fath yn y Gymraeg o'r blaen.
~Publisher: Y Lolfa
Yn ystod y misoedd diwethaf bûm yn ddigon ffodus i ddarllen nifer o lyfrau Cymraeg rhyfeddol o ddiddorol a difyr nes peri i mi boeni fy mod yn brin o ansoddeiriau canmoliaethus. Beth bynnag am hynny, fedra i ond ei dweud hi fel rwy i’n ei gweld hi.
Y mae Sesiwn yng Nghymru – Cymry, Cwrw a Chân gan Huw Dylan Owen yn gampwaith o gyfrol, y gyfrol fwyaf diddorol a ddarllenais ers llawer dydd. Dyma sgrifennu byrlymus, cyffrous, gwybodus, brwdfrydig ac afieithus. Ychwanegwch at hynny sylwadau bachog a barn bendant ar wahanol agweddau’r byd canu gwerin, Cymru a Chymreictod gan ddyn ar dân dros ganu gwerin. Mae e hefyd o blaid cyflwyno canu gwerin yn y lle y dylid gwneud hynny – ymysg gwerin hwyliog y tafarnau.
Mi ddysgais lawer iawn. Rai blynyddoedd yn ôl deuthum ar draws cerdd wedi ei hysgrifennu mewn cymysgedd o Gymraeg a Saesneg. Un o frodyr Evan James, awdur geiriau 'Hen Wlad fy Nhadau', oedd piau hi. Yn gymharol ddiweddar y deuthum i wybod bod enw i’r math yna o gerdd, sef macaronic, ac yn y gyfrol hon dysgais ragor amdani.
Diddorol yw ei sylwadau am ein cefndryd Celtaidd. Nid yw’r Gwyddelod yn taro deuddeg yn y sesiwn Gymreig bob tro. 'Teimla rhai cerddorion gwerin fod dylanwad cerddoriaeth ddawns werin Iwerddon ar gerddoriaeth ddawns werin Cymru yn debyg iawn i ddylanwad y Saesneg ar y Gymraeg,' meddai. Hynny yw, mae perygl i’r alawon Cymreig gael eu boddi gan y traddodiad Gwyddelig.
A dyna’i sylw angharedig am 'sgrech amhersain' y bombard Llydewig. Cytunaf. Nid yw’r bombard yn rhywbeth i wrando arno mewn tafarn. Mae’n iawn allan yn yr awyr agored mewn gŵyl ar flaen neu'n rhan o orymdaith, ond mewn stafell rhaid chwilio am gysgod rhyw biler cadarn i lechu rhyngoch a’r cerddor, a hyd yn oed wedyn mae’r sŵn fel dril ... ac mi ydw i’n un sy’n hoff iawn o Lydaw.
A sôn am Lydaw, clywais stori union yr un fath â chwedl 'Y Crythor Du a’r Bleiddiaid' yno, ond mai bombard a ddefnyddiodd y Llydawr, nid crwth, i gadw’r bleiddiaid rhag ymosod arno. Tebyg fod y bleiddiaid yn gwerthfawrogi’r bombard yn fwy na Huw Dylan Owen.
Mae’n codi llu o gwestiynau teg a pherthnasol. Pam mae caneuon y West End yn cael mwy o le yn ein heisteddfodau a chyn lleied o sylw'n cael ei roi i’n cerddoriaeth werin gynhenid? Ble mae ein hunan-barch?
Pwynt arall – rhyddid cerddorol yw un o hanfodion cerddoriaeth werin, ond aeth hynny yn aml yn groes i’n diwylliant gwerin diweddar gyda chystadleuwyr yn cael eu cosbi am beidio â chadw’n slafaidd at y nodau sydd yn y copi.
Dyma arweinlyfr ardderchog i dafarnau sy’n croesawu sesiynwyr. Hefyd, ar gychwyn pob pennod fe geir alaw draddodiadol Gymreig, tua deugain ohonyn nhw i gyd – rhywbeth amhrisiadwy i grwpiau gwerin, goelia i. Gyda llaw, rwy’n meddwl mai 'Glan (nid Glân) Meddwdod Mwyn' yw enw’r alaw ar dud. 137. Fe gyfansoddodd John Jones (Talhaiarn) eiriau gwladgarol iawn iddi yn y gobaith y buasai’n dod yn anthem genedlaethol Cymru. Ddaeth hi ddim – y cyfnod yn rhy ddirwestol, mae’n debyg, a’r nodau falle’n rhy uchel i gynulleidfa eu canu.
Ond digon o hollti blew. Mae hon yn gyfrol gyforiog o wybodaeth ddiddorol, o farddoniaeth ardderchog, y rhan fwyaf ohoni, rwy’n tybied, o waith yr awdur ei hun ac yn dangos dawn cynganeddwr medrus. Yn ogystal â hynny, mae’r bennod olaf yn ddarn ardderchog o lenyddiaeth bur. Fedra i ddim dweud mwy.
~Gwyn Griffiths @ www.gwales.com
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.