A gripping novel by the author of Maison du Soleil and Min y Môr about the young teacher Gwen and the Italian cafe owner Rosa who is in her eighties, who are both hiding secrets.
Nofel afaelgar yn troi o gwmpas Gwen a Rosa. Mae Gwen yn dechrau ar ei swydd gyntaf fel athrawes a Rosa, yn ei hwythdegau, wedi dod o'r Eidal i Gymru i redeg caffi ar ddiwedd yr ail ryfel byd. Mae datblygiad eu perthynas yn ganolbwynt i'r stori ond mae'r
~Publisher: Y Lolfa
Eglwysi bach hynafol, bryniau llawn coed olewydd a bwyd bendigedig – rhai o'r pethau sy'n dod i'r meddwl wrth ddisgrifio'r Eidal. Ond caledi bywyd yn y wlad honno sydd gan Mared Lewis yn ei nofel ddiweddaraf. Mae'r nofel yn mynd â ni o dref Bardi yn ardal Emilia-Romagna yn ystod yr Ail Ryfel Byd i Landudno'r unfed ganrif ar hugain. Rhwng dau fyd go iawn.
Fel y mae teitl y nofel yn ei awgrymu, mae'r 'ddau fyd' yn dod â phrif gymeriadau'r nofel at ei gilydd. Athrawes yw Gwen sydd newydd ddechrau dysgu mewn ysgol yn Llandudno, ac mae'n ymgartrefu mewn fflat uwchben caffi Eidalaidd yn y dref. Yn rhannu adeilad â hi mae Rosa Spinelli, hen wraig yn ei hwythdegau a symudodd gyda'i gŵr o'r Eidal i Gymru ym merw'r rhyfel. Fel cynifer o drigolion eraill Bardi a ymfudodd i Gymru, agorodd y pâr gaffi. Ac mae’r awenau bellach yn nwylo’r mab, Tony.
Byddai symud i dref ac ysgol newydd yn ddigon heriol, ond ychwanegwch at hynny'r ffaith fod rhaid byw o fewn tafliad carreg i Rosa, ac fe gewch chi ryw fath o syniad o wewyr Gwen. Does fawr o Eidaleg, heb sôn am Gymraeg, rhwng y ddwy gymdoges. Mae Rosa'n dal i ramantu am oes aur y caffi pan oedd ei gŵr a hithau'n ei redeg, ac er ei bod wedi byw yng Nghymru am y rhan fwyaf o'i hoes, mae ei chalon yn dal yn ddwfn ym mhridd ei mamwlad. Fe briododd ddyn oedd yn ei charu, ond mae’n dal i gofio am ei chariad cyntaf, Rino, bron hanner canrif ers ymadael. Wrth i’r nofel fynd rhagddi, fe ddown i wybod mwy am yr uned deuluol yn Bardi. A down i wybod hefyd am fywyd Gwen wrth i’w gyrfa fel athrawes newydd fynd o ddrwg i waeth.
Mae’r cymeriadau'n rhai crwn a chredadwy, ac mae’r gwrthgyferbyniad rhwng Rosa a Gwen yn gweithio’n dda. Ac er yr oerfel a'r tensiwn amlwg sydd rhwng y ddwy gydol y nofel, mae rhywfaint o agosatrwydd hefyd, yn enwedig wrth i’r ddwy deithio gyda’i gilydd i’r Eidal ar ddiwedd y nofel. Pa mor debyg yw’r ddwy mewn gwirionedd?
Mae Mared Lewis wedi llwyddo'n arbennig i greu naws – gallwch chi deimlo cysur cynnes y caffi gyda sŵn a stêm y peiriant coffi wrth iddi dywallt y glaw tu fas, gallwch deimlo caledi bywyd Bardi adeg y rhyfel, a gallwch deimlo colled Rosa, yn enwedig wrth iddi ymweld â mynwent ei gŵr a mynwent y teulu.
Dyma nofel sy’n hawdd ei darllen, ac mae cynildeb Mared Lewis yn golygu nad yw pob llinyn yn cael ei glymu chwaith. Er bod haenau gwahanol stori Gwen a stori Rosa yn dod i’r amlwg, mae yna gwestiynau sydd yn dal heb eu hateb – perthynas Gwen a’i thad yn un peth. Ac rwy'n siŵr fod mwy i hanes Tony hefyd. Y nofel nesa efallai.
Llwyddodd yr awdur i greu dau brif gymeriad, dau gymeriad sy'n pontio'r cenedlaethau a'r gwledydd. A'r ddwy rhwng dau fyd.
A phob clod hefyd i Mike Briscoe am y clawr deniadol sy’n atgoffa rhywun o ddarluniau Hopper. Clawr y nofel yw gwisg y geiriau wedi’r cwbl.
~Dorian Morgan @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.