A historical novel about Rhisiart Dafydd, one of the earliest Quakers to travel to America in the quest for spiritual freedom.
Nofel hanesyddol gyffrous sy'n symud o Gymru i feysydd y Rhyfeloedd Cartref yn Lloegr ac i goedwigoedd gogledd America, wedi'i gosod ym merw un o'r cyfnodau mwyaf cythryblus yn hanes ynysoedd Prydain, yn wleidyddol ac yn grefyddol.
~Publisher: Y Lolfa
Tipyn go lew o antur, rhyw binsiad o ramant, mordaith go ddychrynllyd, brwydrau gwaedlyd, estroniaid caredig – dyna ddigon ar y rhestru oherwydd mae’r rhain, a mwy, yn nofel newydd Jerry Hunter.
Bu llawer iawn o drafod yn 2014 ar ei nofel Ebargofiant ac mi fydd y nofel swmpus hon o ran cynnwys a hyd yn sicr o ennyn trafodaeth frwd, ond am resymau go wahanol. Dyma glamp o nofel arall gan awdur toreithiog a gwreiddiol iawn, ac i’r sawl sy’n gofyn – ydy mae hi’n haws ei darllen!
Troi ei olygon at y gorffennol wna’r academydd o Fangor y tro hwn a hynny i gyfnod sydd, efallai, yn go anghyfarwydd i lawer o’i ddarllenwyr, sef cyfnod y Rhyfeloedd Cartref yn Lloegr yn yr ail ganrif ar bymtheg. Yn fwy penodol, hanes Cymro ifanc yn ystod y cyfnod cythryblus hwnnw sydd yma a’r cymeriadau sy’n rhan o’i fywyd. Mae’n hanes cyffrous yn wleidyddol ac yn grefyddol, ac yn annisgwyl o amserol i’n dyddiau ni, fel yr awgryma sylwadau’r nofelydd William Owen Roberts ar y clawr.
Hanes taith sydd wrth galon y nofel, sef taith Rhisiart Dafydd ar drywydd y criw o Gymry aeth i sefydlu’r Jeriwsalem newydd yn yr Amerig. Mae’r disgrifiadau erchyll o’r fordaith yn fyw a’i ymdrech lew i oroesi ar ôl iddo lanio ar y tir mawr yn gofiadwy iawn. Caiff gymorth y brodorion cynhenid cyn mynd ati i chwilio am ei gyd-Gymry. Ond, go wahanol ydy’r croeso a gaiff Rhisiart Dafydd ganddyn nhw yn y Jeriwsalem newydd.
Yn ystod yr hanes, cawn gip hefyd ar ei fagwraeth gynnar yn Sir Gaernarfon, sut y bu i'r teulu chwalu yn sgil marwolaeth ei dad, a’r symud anorfod wedyn i Ddinbych at ewythr iddo, cyn mynd yn brentis gof yn ddiweddarach i Wrecsam at Edward Wiliam. A’r rhyfel ar y gorwel, fe gaiff Edward Wiliam gyfle i gynorthwyo’r milisia yn eu paratoadau, ac mae Rhisiart yn cael ei dynnu i ganol y brwydrau chwerw, dan ddylanwad Walter Cradoc a Vavasor Powell. Fe y dywed droeon, mae ei gleddyf yn dynn iawn yn ei law a’i ffydd yng nghyfiawnder yr achos yn gadarn. Ond, mae’r erchylltra yn gadael ei farc ar y Cymro ifanc ac yn ei boenydio yn y pen draw.
Fel y gellid disgwyl, o gofio’r cyfnod a’r dylanwadau fu, ail daith y nofel hon ydy hanes taith ysbrydol Rhisiart Dafydd. Darlunnir balchder y tad yn sicrhau Beibl Cymraeg i’w deulu ifanc, twf ffydd ddofn Rhisiart yn ddiweddarach yn Wrecsam ond yna sonnir am frwydrau gwaedlyd megis brwydrau Nasebury a Wexford. Mae’r hyn mae’n ei weld yno yn aros yn fyw yng nghof yr hogyn ifanc o Arfon, a Rhisiart go wahanol sy’n ymateb i gais y Cyrnol Phillips i fynd i’r Amerig ar drywydd y Jeriwsalem newydd flynyddoedd yn ddiweddarach, a’i brofiadau pellach yno'n cadarnhau’r newid ynddo.
Mae’r cyfnod hwn yn gyfarwydd iawn i Jerry Hunter ac nid dyma’r tro cyntaf iddo ysgrifennu am gysylltiadau Cymru a’r Amerig, a hanes y Cymry hynny ymfudodd yno. Mae manylion gwleidyddol a chymdeithasol y cyfnod yn gefnlen esmwyth i’r stori heb arafu dim ar y llif na thynnu sylw heb fod angen.
Ond ai dim ond adrodd hanes ddoe mae nofel hanesyddol? Wrth i mi ddarllen y nofel hon, roedd y digwyddiadau diweddar ym Mharis ac ymdrechion ffwndamentalwyr ISIS yn mynnu fy sylw hefyd ac yn rhoi golwg wahanol ar y nofel hon i mi, â'i thema o frwydro dros achos heb ystyried y pris, gan gyfiawnhau unrhyw erchylltra yn enw’r gwirionedd tybiedig. Swnio’n gyfarwydd?
Ydy, mae nofel hanesyddol dda hefyd yn gofyn cwestiynau am heddiw ac yn sicr mi lwyddodd y nofel hon i wneud hynny. Fe erys hanes Rhisiart Dafydd ei hun yn hir yn y cof – ei daith gorfforol a’i daith ysbrydol, a’r tristwch bod hanes yn mynnu ailadrodd ei hun.
~Janet Roberts @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.