A fantasy novel for readers aged 10-13 years, about a boy is drawn into a world of magic and enchantment ...
Nofel ffantasi ddarllenadwy i blant 10-13 oed am fachgen sy'n cael ei ddenu i wlad o hud a lledrith. Awn gyda Cledwyn a Sian drwy'r darlun ac ar hyd twnnel i wlad Crug. Yno cawn gwrdd a Gili DAu caredig - cymeriad rhychiog a moel, byr ond hynod o gryf.
~Publisher: Y Lolfa
Dyma’r nofel gyntaf mewn cyfres newydd, Cyfres yr Onnen; dyma hefyd nofel gyntaf hynod lwyddiannus yr awdures Manon Steffan Ros.
Byw gyda’u nain mae Cledwyn a Siân ac yng nghanol y nos, ar ddechrau gwyliau’r haf, mae rhywbeth anghyffredin iawn yn digwydd i’r ddau ohonynt. Mae’r ddau yn cael eu cymell i ddilyn llwybr gwelltog sy’n mynd â hwy drwy ganol darlun oedd yn hongian ar wal y gegin. Awn gyda’r ddau ar antur i wlad hud Crug ble y cawn gyfarfod â llu o gymeriadau a chreaduriaid lliwgar a pheryglus.
Yn syth bin ar ôl cyrraedd, mae Cled a Siân yn cael eu bygwth gan yr Abarimon – creaduriaid chwim a hynod o beryglus, ond drwy lwc mae’r hoffus Gili Dŵ wrth law i’w helpu.
Cawn ein tywys wedyn i wlad y Marach a’r Gwachell a down i adnabod Cnorc! Down hefyd i adnabod Siân a Cled a hynt a helynt eu teulu a’u magwraeth. Mae Cled yn profi cyfeillgarwch ffrind yn nghwmni Gili Dŵ ac mae hynny yn y pen draw yn newid ei fywyd.
Mae cael y cyfle i fynd i wlad ffantasïol hudolus sy'n llawn anturiaethau yn brin. Gwnewch yn fawr o’r cyfle gyda’r nofel hon, felly, ac ymgollwch!
~Glenda Williams @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.