A story based on the British Miners' Strike between 1984/85. The novel focuses mainly on the tensions between the miners on strike and those who wished to carry on working at the mine.
Stori wedi ei gosod yn ystod cyfnod cythryblus Streic Glowyr Prydain yn 1984/85. Streic a welodd ddiwedd diwydiant glo de Cymru. Nofel sy'n canolbwyntio ar y tensiynau rhwng y streicwyr, a'r rhai sy'n torri'r streic.
~Publisher: Y Lolfa
Mae nofel Alun Gibbard, Talcen Caled, yn ddarlun grymus a chignoeth o fisoedd olaf 1984 a streic fawr y glowyr. Yn ganolog iddi mae stori’r gyrrwr tacsi, David Wilkie, a gafodd ei ladd gan ddarn o goncrit a daflwyd oddi ar bont uwchlaw’r ffordd o Rymni i lofa Merthyr Vale. Roedd Wilkie (Steve yn y nofel) yn cludo glöwr oedd yn torri’r streic – sgab – i’r gwaith.
Gwelir y streic yng ngwewyr ei dyddiau olaf, a phortreadir dicter y gwrthdaro rhwng y streicwyr a’r rheini oedd am ddychwelyd i’r gwaith, ac effaith y digwyddiadau ar deulu’r dyn tacsi ac ar y cymunedau glofaol. Cyflwynir hyn oll yn bennaf o safbwynt teulu’r dyn tacsi ac, yn arbennig o effeithiol, drwy lygaid Dylan, y newyddiadurwr. Yn bur amlwg, pwysodd Alun Gibbard yn drwm ar ei brofiadau personol ei hun o’r cyfnod, a thebyg mai ef ei hun, i raddau, yw Dylan.
Trwy ei lygad ef y cawn rai o ddisgrifiadau grymusaf a mwyaf trawiadol y nofel, y streiciwr gyda chopi o’r Sun yn ei boced yn ymosod arno, y bws yn gyrru drwy’r llinell biced cyn toriad gwawr ... mae’r nofel yn llawn gemau disgrifiadol delynegol gan sgrifennwr profiadol, dawnus. Mae’r Gymraeg dafodieithol gyfoethog yn ardderchog.
Y gwrthdaro rhwng glowyr ar streic a’r rhai sy’n dychwelyd i’r gwaith, a’r tyndra a’r caledi o fewn y gymuned yw themâu dirdynnol y nofel. Mae gan yr awdur gydymdeimlad cytbwys â'r ddwy ochr – does yma ddim arthio na phregethu, ac mae’n nofel drugarog. Ac er bod Merthyr, Merthyr Vale a Chaerdydd yn ganolog i'r stori, mae’r profiadau a’r digwyddiadau’n cwmpasu holl faes glo'r de.
Un gŵyn sy gen i. Fûm i erioed yn hoff o’r arfer o newid enwau cymeriadau hawdd eu hadnabod mewn ffuglen hanesyddol, a’u cymysgu â chymeriadau dychmygol. Mae’n dechneg a ddatblygwyd gan rai nofelwyr Americanaidd yn y chwedegau. Lle mae’r nofelydd yn trin pwnc nad yw o dragwyddol bwys, gellir ei dderbyn. Ond mae cefnlen Talcen Caled o bwys, goelia i, ac nid yw’r haneswyr wedi llwyr wyntyllu holl agweddau cyfnod y streic. Mae Alun Gibbard yn taflu gwybodaeth ac argraffiadau gwir ddiddorol a phwysig i’r pair, ond ai'r nofel, felly, yw’r cyfrwng gorau o gyflwyno hyn, a ninnau'n dal yn agos iawn at y streic ei hun, ei chreithiau a'i chanlyniadau? Gobeithio y bydd darllen a thrafod pellach ar y nofel hon.
~Gwyn Griffiths @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.