Supporting her husband, Seimon Cesel Ucha, is the job of his wife from morning till night. Whenever a storm is brewing in his life, she must step to the front and run the farm until all has subsided. But one day, something comes to disrupt the lives of them both. Winner of the Literary Medal at the 2014 National Eisteddfod.
Cefnogi Seimon mae gwraig fferm Cesel Ucha yn ei wneud o fore gwyn tan nos. Pan ddaw'r tyrfe i aflonyddu arno, mae hi'n gorfod camu i'r blaen a rhedeg y lle nes bod y storm wedi cilio. Ond un diwrnod, daw rhywbeth i darfu ar fywydau'r ddau. Gwaith arobryn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gar, 2014.
~Publisher: Y Lolfa
Wrth wrando ar feirniadaeth Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, rhyw deimlo roeddwn mai ffliwc oedd i Lleucu Roberts ei hennill, yn arbennig o gofio am sylwadau Gareth Davies Jones ar y llwyfan ac yn y Cyfansoddiadau, a deall i’r gyfrol fuddugol fod yn y gystadleuaeth hon o’r blaen yn Wrecsam, a derbyn sylwadau anfrwdfrydig gan Emyr Llywelyn, Jon Gower ac Elin Llwyd Morgan. Ond pan enillodd Saith Oes Efa y Fedal Ryddiaith y diwrnod canlynol, roeddem yn gwybod mai cyw o frid oedd yr awdures, ac fe wyddwn i hynny eisoes, wrth gwrs, wedi bod yn ‘dysgu’ Lleucu yn Adran y Gymraeg yn Aberystwyth flynyddoedd maith yn ȏl bellach. Wrth ddarllen y gyfrol arobryn cawn f’argyhoeddi fwyfwy fod yma lenor o’r iawn ryw.
Fe wnaed môr a mynydd o’r ffaith mai tair merch oedd beirniaid y gystadleuaeth hon eleni, fel petai tri beirniad gwrywaidd yn siŵr o’i chollfarnu, ond go brin bod hynny’n deg o gwbl, oherwydd buaswn i a dau feirniad arall o’r un rhyw – ac o gyffelyb fryd – yr un mor frwd ein canmoliaeth ag roedd Cartin Beard, Meg Elis a Manon Rhys, y beirniaid swyddogol.
Does dim amheuaeth yn fy marn i nad yw hon yn un o gyfrolau gorau’r Fedal erioed, ac yn un o gyfrolau mwyaf gwreiddiol y Gymraeg ar hyd yr oesoedd. Fuaswn i erioed wedi dyfalu mai Lleucu Roberts a’i lluniodd gan mor amrywiol yw’r tafodieithoedd a ddefnyddir ynddi. Eto i gyd, mi wn yn iawn ei bod hithau’n gyfarwydd ȃ sawl tafodiaith, ac yma mae’n eu defnyddio’n abl iawn, gan gynnwys llawer o Saesneg yn ‘Setlo’. (Go brin y buasai Alan Llwyd wedi cymryd at honno, ond i mi dyma un o uchafbwyntiau’r gyfrol, nid y ‘wannaf o’r saith’, fel y dywed Manon Rhys – nid oherwydd y Saesneg ynddi, brysiaf i ychwanegu, ac nid wyf innau chwaith o blaid Saesneg per se, ond pan ddefnyddir hi’n eironig fel yma ac yn awdl Ceri Wyn, prin y gellir ei chollfarnu.)
Mae cyweiriau’r straeon hyn mor amrywiol ag oed a chefndir y cymeriadau ynddynt, a chanmoliaeth i’r awdures ddawnus yw dweud ei bod yn deall ‘saith oes’ Efa i’r dim. Mae’n wir nad dyma’r ‘saith oes’ y buasai rhywun arall yn eu portreadu, ond diau bod i Efa (fel i Adda) fwy na ‘saith oes’ wedi’r cwbl.
~John Rowlands @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.