Eifion is about to jump off Menai Bridge. He craves an escape from a life of failure. He's failed in his marriage, in business and in his relationship with his family. But at the critical moment when he is about to take the final step into darkness, Dewi comes to disrupt his plans. Winner of the Daniel Owen Prize at the 2014 National Eisteddfod.
Mae Eifion ar fin neidio oddi ar Bont y Borth. Mae'n dyheu am ddihangfa rhag bywyd llawn methiant - yn ei briodas, ei fusnes ac yn ei berthynas a'i deulu. Ond ar y foment dyngedfennol, ac yntau ar fin cymryd y cam olaf i'r duewch mawr, daw Dewi i darfu ar ei gynlluniau. Nofel arobryn Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gar, 2014.
~Publisher: Y Lolfa
Mae gen i gof am gyfarfod un o Athrawon Adran y Gymraeg ar y prom yn Aberystwyth un haf tua chanol yr wythdegau. Cododd sgwrs rhyngom lle cyfeiriodd yr Athro at Lleucu Roberts fel ‘athrylith’ ac fel ‘storom o ferch’. Roedd hynny'n deyrnged nid yn unig i’w disgleirdeb academaidd ond yn gydnabyddiaeth hefyd o’i bywiogrwydd cymdeithasol a’i hymgyrchu gwleidyddol diarbed gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg ac UMCA.
Fe droes yr athrylith stormus hon, ar ôl priodi Arwel (Pod), yn fam i bedwar o blant ac yn awdures doreithiog a enillodd Wobr Tir na n-Og ddwywaith.
Er ei llwyddiant, prin y gellir dweud iddi gael y sylw a haedda. Rywsut, bu rhywbeth hynod o encilgar am Lleucu’r awdur, rhyw swildod cwbl wahanol i’w chyfnod fel myfyrwraig.
Wel, prin y bydd hi'n gallu encilio mwyach a hithau newydd ennill Gwobr Goffa Daniel Owen a’r Fedal Ryddiaith – y tro cyntaf erioed i hyn ddigwydd yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol. Enillodd ei lle yn ‘oriel yr anfarwolion’ gyda T. H. Parry-Williams, Alan Llwyd a Donald Evans.
Cawsom ganddi ddwy gyfrol gampus eleni. Ond fy lle i yw adolygu’r gyfrol enillodd iddi'r Wobr Goffa. Mae rheolau’r gystadleuaeth yn gofyn am nofel, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau, sy’n meddu ar linyn storïol cryf.
Mae rhywun yn casglu oddi wrth y cyfweliadau a gafwyd gyda’r awdur fod ganddi fwy o feddwl o’r straeon byrion a enillodd iddi’r Fedal nag o’r nofel, a gyflwynwyd o’r blaen i gystadleuaeth y Daniel yn 2011. Mae’n dda fod Lleucu wedi manteisio ar gystadleuaeth fel hon a byddai’n braf gweld mwy o awduron profiadol ac aml eu nofelau yn dilyn ei hesiampl. Synhwyrwn fod ar rai ohonynt ofn cystadleuaeth, ond byddai ennill yn dod â chyhoeddusrwydd, clod a gwerthiant i’w ganlyn.
Yn sicr, nid oes raid ymddiheuro o gwbl am Rhwng Edafedd. Mae’n nofel sy’n agor yn afaelgar gydag Eifion, gŵr canol oed, yn ystyried taflu ei hun o ben Pont y Borth am fod problemau bywyd wedi mynd yn ormod iddo. Methiannau fu ei briodas a’i fusnes ac mae’n olrhain ei drybini i’r berthynas anodd rhyngddo ef, ei rieni a’i frawd hŷn pan oedd yn blentyn. Mae hyn hyd yn oed yn effeithio ar y berthynas rhyngddo ef a’i blant yn ddiweddarach. Ond daw Dewi, fel rhyw angel gwarcheidiol, a’i argyhoeddi i ymatal rhag taflu ei hun i’r afon. Diflanna'r Dewi hwn o’r stori wedyn cyn gwneud ailymddangosiad arwyddocaol tua diwedd y nofel. Deuwn ninnau i ddeall bod ei boblemau ef yn llawer mwy difrifol na rhai Eifion.
Yr hyn sydd gennym, felly, yw nofel seicolegol, dywyll, gyda rhai sylwadau bywiog a brathog am fywyd wrth basio. Ar un olwg, cymeriad digon anghynnes yw Eifion ei hun. Mae’n fewnblyg ac yn hunanol. Er hynny, mae’n gafael ynom wrth iddo ein tywys drwy holl helbulon ei fywyd a’r berthynas gymhleth rhyngddo a’i berthnasau. Rhoddir cyfle i ni, wedi ei ymddangosiad ar y bont, weld y byd drwy lygaid ei rieni, ei frawd, ei wraig a’i blant. Rhydd hynny olwg wahanol i ni ar bethau ac fe wawria ar Eifion fod ganddynt hwythau broblemau i’w goresgyn. Gan iddo'i lapio ei hun mewn mantell drom o hunandosturi nid oedd Eifion wedi sylwi ar hyn o’r blaen.
Nofel dywyll, ond eto mae yna oleuni ym mhen draw’r twnnel – dim ond i’r amrywiol gymeriadau ymgodymu â brwydro'u ffordd tuag ato. Fel gyda chyfrol y Fedal, mae yma fyfyrdod dwfn a llygedyn o obaith tua’r diwedd wrth i Eifion gerdded yn hyderus o’r bont.
Sicrhaodd ‘athrylith stormus’ o awdur fod gennym nofel sy’n gwbl deilwng o Wobr Goffa Daniel Owen eleni.
~Dafydd Morgan Lewis @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.