This is the story of one of Wales' main Welsh-language organisations, with 280 branches and 7,000 members. Over the decades Merched y Wawr has provided women with opportunites to socialise, practice their skills, raise money and be proud of their Welshness.
1 - Hanes cynnar y Mudiad Awdur: Sylwen Davies, Llywydd Anrhydeddus
2 - Hanes presennol y Mudiad Awdur: Tegwen Morris, Trefnydd
3 – Hanes: 1970au i 2000. Awdur: Mererid Jones, Llywydd Cenedlaethol a chyn-Drefnydd
4 – Cyfraniad i elusennau Awdur: Esyllt Jones
5 – Ymgyrchoedd Awdur: Margarette Huws
6 - Y Trydydd Byd: Awdur: Mair Penri
7 - Dysgwyr: Awdur: Julia Hawkins(gyda chyflwyniad gan Mary Price)
8 - Y Wawr: Awdur: Siân Lewis
9 - Prosiect llafar. Awdur: Catrin Stevens
10 – Portread o’r Clybiau Gwawr. Awdur: Ruth Morgan
11 – Portread: aelod o FyW. Awdur: Annes Glyn
12 - Golwg ar y mudiad trwy storïau gan 5 llywydd: Nan Lewis, Glenys Thomas, Valerie James, Rhianwen H. Roberts a Gwyneth Morus Jones.
Hanes difyr, dwys a doniol sy'n crisialu cyfraniad mudiad Cymraeg ei iaith sydd a 280 o ganghennau a 7,000 o aelodau. Dyma gofnod o fudiad sydd wedi cynnig cyfleoedd i fenywod gymdeithasu, arfer doniau, ymgyrchu a chodi arian er budd elusennau yng Nghymru a thu hwnt
~Publisher: Y Lolfa
Rhaid cyfaddef mai yn betrus y cytunais i adolygu'r llyfr hwn. Nid wyf na merch y wawr na merch i ferch y wawr fy hun. Yn wir, tueddaf i edrych ar gymdeithasau un rhyw gyda pheth amheuaeth ond ni all neb wadu pwysigrwydd y mudiad hwn na’i gyfraniad i’n bywyd cenedlaethol. Ar lawer ystyr, mae’n batrwm y gall unrhyw un ohonom ei ddilyn, sef cyfuniad o gonsýrn a gofal di-ildio dros anghenion y genedl a gofal dros eraill ledled byd. Ni ddylai hynny ryfeddu dim arnom oherwydd dyma fudiad a sefydlwyd yn y chwedegau – cyfnod o brotestio yn erbyn apartheid a thros yr iaith, cyfnod chwyldroadol a’r chwyldro hwnnw'n seiliedig ar newid trefn a throi pethau i’n siwtio ein hunain.
Gwraidd y mudiad, wrth gwrs, yw cymdeithasau Saesneg megis y WI a’r Ladies Guild, ond un peth a brofir yn bendant gan y llyfr hwn yw mai gorsymleiddio dybryd yw ei alw yn WI Cymreig. Dyma fudiad sydd o’i gychwyn wedi gweld bod mwy i fywyd merch na jam a Jerwsalem ac yn fudiad a oedd yn dwyn pwysau ar lywodraeth ar faterion iechyd, iaith, lles a gofal plant yng Nghymru ac mewn gwledydd megis Lesotho, a hynny ymhell cyn i’r WI heclo unrhyw brif weinidog! O Lesotho i Lundain i Landudno, nid oes dim nad yw’r mudiad yn fodlon ei daclo os yw hynny er lles Cymru ac er lles eraill.
Fe ellid bod wedi ysgrifennu hanes cwbl gronolegol, yn cychwyn gyda hanes y mudiad, ac fe fyddai fformat o’r fath wedi gweddu i'r gyfrol, ond ni chredaf y byddai wedi llwyddo i roi blas y mudiad inni go iawn. Doeth oedd penderfynu gadael i nifer o ferched a oedd ynglŷn â’r mudiad gyfrannu pennod. Mae yma benodau gan rai o’r merched a sefydlodd y mudiad a phenodau gan hoelion wyth gwahanol ganghennau a'r rheiny'n Gymry Cymraeg ac yn ddysgwyr fel ei gilydd. Ceir hefyd hanes hynt a helynt y mudiad a hanes ei waith gydag ymgyrchoedd megis Sodlau’n Siarad a’r ymgyrch nid anenwog i gasglu bras. Y mae hyd yn oed hanes priodas frenhinol yn Lesotho yma, gan i Ferched y Wawr fynd yno fel rhan o’u hymgyrch i gynorthwyo’r elusen Homemakers, sy'n ceisio dysgu merched Lesotho i wella eu cartrefi er lles eu plant.
Dyma fywgraffiad mudiad hyderus, mudiad sy'n gwybod bod ganddo le ym mywyd y genedl. O’r herwydd, nid oes ganddo ofn esblygu. Sonia'r llyfr am hanes ffurfio canghennau Clwb Gwawr, gan nodi nad oedd eu sefydlu yn beth y cytunai pawb arno. Mae’r ffaith fod y llyfr yn crybwyll hyn yn brawf arall mai mudiad yn ei oed sydd yma, mudiad cryf sydd yn edrych i’r dyfodol gyda hyder ac asbri.
A chyda llaw, nid llyfr i ferched yn unig yw hwn. Fe ddylai gwŷr y wawr ei fwynhau hefyd!
~Lona Jones @ www.gwales.com
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.